20 Fe ydy'r un sy'n dod â'r cwbl mae Duw wedi ei addo yn wir! Dyna pam dŷn ni'n dweud “Amen” (sef “ie wir!”) wrth addoli Duw – o achos y cwbl wnaeth e!
21 A Duw ydy'r un sy'n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto,
22 ac mae wedi'n marcio ni'n bobl iddo'i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.
23 Dw i'n galw ar Dduw i dystio fy mod i'n dweud y gwir. Y rheswm pam wnes i ddim dod yn ôl i Corinth i'ch gweld chi wedi'r cwbl oedd fy mod i eisiau'ch arbed chi.
24 Dŷn ni ddim eisiau'ch fforsio chi i gredu fel dŷn ni'n dweud. Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn, a sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain.