5 Po fwya dŷn ni'n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni'n cael ein cysuro ganddo.
6 Dŷn ni'n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a'ch cadw'n saff. Pan dŷn ni'n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a'ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi'n dioddef yr un fath â ni.
7 A dŷn ni'n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd.
8 Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni,
9 a'n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw!
10 Mae wedi'n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni'n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny
11 tra byddwch chi'n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o'i bobl.