1 Wnewch chi oddef i mi siarad yn ffôl? – maddeuwch i mi am hyn.
2 Os dw i'n genfigennus, Duw sy'n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi'ch addo chi yn briod i un dyn – ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi'n wyryf bur i'r Meseia.
3 Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a'ch denu i ffwrdd o'ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys.
4 Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i'r un roedden ni'n ei bregethu. Dych chi'n derbyn ysbryd sy'n wahanol, neu ‛newyddion da‛ gwahanol, a dych chi'n goddef y cwbl yn ddigon hapus!
5 Ond dw i ddim yn meddwl mod i'n israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna.