27 Dw i wedi gweithio'n wirioneddol galed ac wedi colli cwsg yn aml; wedi profi newyn a syched a mynd heb fwyd yn aml; dw i wedi dioddef o oerfel ac wedi bod heb ddigon o ddillad i gadw'n gynnes.
28 A heb sôn am ddim arall, dw i dan bwysau bob dydd o achos y consýrn sydd gen i am yr eglwysi i gyd.
29 Os ydy rhywun yn teimlo'n wan, dw i yno gydag e. Os ydy rhywun yn cael ei arwain i bechu, dw i'n berwi y tu mewn!
30 Os oes rhaid i mi frolio, mae'n well gen i frolio am y pethau hynny sy'n dangos mor wan ydw i.
31 Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu – yr un sydd i'w foli am byth – yn gwybod fy mod i'n dweud y gwir.
32 Yn Damascus roedd y llywodraethwr dan y Brenin Aretas wedi gorchymyn i'r ddinas gael ei gwarchod er mwyn fy arestio i.
33 Ond ces fy ngollwng i lawr o ffenest yn wal y ddinas, mewn basged! Dyna sut llwyddais i ddianc o'i afael!