1 Rhaid i mi ddal ati i frolio. Does dim i'w ennill o wneud hynny, ond dw i am fynd ymlaen i sôn am weledigaethau a phethau mae'r Arglwydd wedi eu dangos i mi.
2 Dw i'n gwybod am un o ddilynwyr y Meseia gafodd ei gipio i uchder y nefoedd bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Wn i ddim a ddigwyddodd hynny'n gorfforol neu beidio – dim ond Duw sy'n gwybod.
3 Dw i'n gwybod ei fod
4 wedi cael ei gymryd i baradwys, a'i fod wedi clywed pethau sydd y tu hwnt i eiriau – does gan neb hawl i'w hailadrodd.
5 Dw i'n fodlon brolio am y person hwnnw, ond wna i ddim brolio amdana i fy hun – dim ond am beth sy'n dangos fy mod i'n wan.