4 Mae'n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A'r un modd, dŷn ni sy'n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni'n rhannu ei fywyd e – a'r bywyd hwnnw sydd trwy nerth Duw yn ein galluogi ni i'ch gwasanaethu chi.
5 Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw'n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? – os na, dych chi wedi methu'r prawf.
6 Beth bynnag, dw i'n hyderus eich bod chi'n gweld ein bod ni ddim wedi methu'r prawf.
7 Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio'r prawf ydy'r rheswm pam dŷn ni'n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi'n gwneud dim o'i le. Dŷn ni am i chi wneud beth sy'n iawn hyd yn oed os ydy'n ymddangos ein bod ni wedi methu.
8 Dŷn ni ddim am wneud unrhyw beth sy'n rhwystr i'r gwirionedd, dim ond beth sy'n hybu'r gwirionedd.
9 Yn wir, dŷn ni'n ddigon balch o fod yn wan os dych chi'n gryfion. Ein gweddi ni ydy ar i chi gael eich adfer.
10 Dyna pam dw i'n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i'n absennol – dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio'r awdurdod mae'r Arglwydd wedi ei roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu'ch ffydd chi.