6 Mae beth benderfynodd y mwyafrif ohonoch chi yn yr eglwys ei wneud i'w ddisgyblu wedi mynd ymlaen yn ddigon hir.
7 Erbyn hyn mae'n bryd i chi faddau iddo a'i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu'n llwyr a suddo i anobaith.
8 Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi'n dal i'w garu.
9 Roeddwn i'n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio'r prawf a bod yn gwbl ufudd.
10 Dw i'n maddau i bwy bynnag dych chi'n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi – os oedd rhywbeth i mi i'w faddau. Mae'r Meseia ei hun yn gwybod fy mod i wedi gwneud hynny.
11 Dŷn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dŷn ni'n gwybod yn iawn am ei gastiau e!
12 Pan gyrhaeddais i Troas i gyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yno, ches i ddim llonydd. Er bod yno gyfle gwych i weithio dros yr Arglwydd,