1 Ydyn ni'n dechrau canmol ein hunain o'ch blaen chi unwaith eto? Yn wahanol i rai, does arnon ni ddim angen tystlythyr i'w gyflwyno i chi, a dŷn ni ddim yn gofyn i chi ysgrifennu un i ni chwaith.
2 Chi eich hunain ydy'n tystlythyr ni! Llythyr sydd wedi ei ysgrifennu ar ein calonnau ni, ac mae pawb ym mhobman yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddarllen.
3 Yn wir, mae'n amlwg mai llythyr gan y Meseia ei hun ydych chi – a'i fod wedi ei roi yn ein gofal ni. Llythyr sydd ddim wedi ei ysgrifennu ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw. A ddim ar lechi carreg, ond ar lechi calonnau pobl!
4 Beth mae'r Meseia wedi ei wneud sy'n ein gwneud ni mor hyderus o flaen Duw.
5 Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni'n hunain i hawlio'r clod am ddim byd – Duw sy'n ein gwneud ni'n deilwng.
6 Mae wedi'n gwneud ni'n deilwng i wasanaethu'r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae'r Ysbryd yn rhoi bywyd.
7 Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda'r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen).