12 Gan mai dyma dŷn ni'n edrych ymlaen ato, dŷn ni'n gallu cyhoeddi'n neges yn gwbl hyderus.
13 Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd.
14 Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae'r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau'r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy'n gallu cael gwared â'r gorchudd!
15 Ond hyd heddiw, pan mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen mae'r gorchudd yn dal yna yn eu dallu nhw.
16 Ac eto'r Gyfraith ei hun sy'n dweud, “Pan mae'n troi at yr Arglwydd, mae'r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.”
17 Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae'r gair ‛Arglwydd‛; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid.
18 Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dŷn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dŷn ni'n troi'n fwy a mwy disglair o hyd. A'r Ysbryd Glân ydy'r Arglwydd sy'n gwneud hyn i gyd.