8 Felly beth am drefn newydd yr Ysbryd? Oni fydd hi'n dod gydag ysblander llawer iawn mwy rhyfeddol?
9 Os oedd y drefn sy'n arwain i farn yn wych, meddyliwch mor anhygoel o wych fydd y drefn newydd sy'n dod â ni i berthynas iawn gyda Duw!
10 Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar!
11 Ac os oedd y drefn oedd yn pylu yn rhyfeddol, meddyliwch mor ffantastig ydy ysblander y drefn sydd i aros!
12 Gan mai dyma dŷn ni'n edrych ymlaen ato, dŷn ni'n gallu cyhoeddi'n neges yn gwbl hyderus.
13 Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd.
14 Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae'r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau'r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy'n gallu cael gwared â'r gorchudd!