1 Felly gan fod Duw wedi bod mor garedig â rhoi'r gwaith yma'n ein gofal ni, dŷn ni ddim yn digalonni.
2 Dŷn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dŷn ni'n dweud yn blaen beth ydy'r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw'n gallu'n trystio ni fel rhai sy'n gwbl agored o flaen Duw.
3 Os oes rhai pobl sy'n methu deall y newyddion da dŷn ni'n ei gyhoeddi, y bobl sy'n mynd i ddistryw ydy'r rheiny.
4 Y diafol (‛duw‛ y byd hwn) sydd wedi dallu'r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy'n dangos i ni yn union sut un ydy Duw.
5 Dŷn ni ddim yn siarad amdanon ni'n hunain – dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy'r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu.
6 Ac mae'r Duw ddwedodd, “Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o'r tywyllwch,” wedi'n goleuo ni a'n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia.