15 Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i'r rhai sy'n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio'r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto.
16 Bellach dŷn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae'r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dŷn ni ddim yn gwneud hynny mwyach.
17 Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi ei greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le!
18 A Duw sy'n gwneud y cwbl – mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e'i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi'r gwaith i ni o rannu'r neges gyda phobl eraill.
19 Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe'i hun â'r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni y gwaith o ddweud am hyn wrth bobl.
20 Dŷn ni'n llysgenhadon yn cynrychioli'r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni'n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw!
21 Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e'n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dŷn ni'n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.