2 Yn y cyfamser dŷn ni'n hiraethu am gael ein gwisgo â'n cyrff nefol.
3 A byddwn yn eu gwisgo – fydd dim rhaid i ni aros yn noeth.
4 Tra'n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dŷn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth.
5 Mae Duw ei hun wedi'n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi'r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.
6 Felly dŷn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu.
7 Dŷn ni'n byw yn ôl beth dŷn ni'n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni'n ei weld.
8 Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd!