7 Dŷn ni'n byw yn ôl beth dŷn ni'n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni'n ei weld.
8 Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd!
9 Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe.
10 Achos bydd pob un ohonon ni'n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb dderbyn beth mae'n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg.
11 Felly, am ein bod ni'n gwybod fod yr Arglwydd i'w ofni, dŷn ni'n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i'n hyderus eich bod chi'n gwybod eich bod chi'n gallu'n trystio ni hefyd.
12 Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dŷn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon.
13 Os ydyn ni'n ymddangos fel ffanatics, mae hynny am ein bod ar dân dros Dduw. Os ydyn ni'n siarad yn gall, mae hynny er eich lles chi.