1 Dŷn ni'n cydweithio gyda Duw ac yn apelio atoch chi i beidio ymateb yn arwynebol i'w haelioni e.
2 Mae Duw'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Bydda i'n gwrando arnat ti pan fydd yr amser yn iawn, Ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub.” Edrychwch! Mae'r amser iawn wedi dod! Mae'r dydd i Dduw achub yma!
3 Dŷn ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystro pobl rhag dod i gredu, fel bod dim modd beio ein gwaith ni.
4 Na, dŷn ni am ddangos yn glir mai gweision Duw ydyn ni. Dangos hynny yn y ffordd dŷn ni'n dal ati yng nghanol ein holl drafferthion, pan mae pethau'n galed ac yn edrych yn anobeithiol.