1 Felly ffrindiau annwyl, am fod Duw wedi addo'r pethau yma i ni, gadewch i ni lanhau'n hunain o unrhyw beth allai'n gwneud ni'n aflan. Am fod Duw i'w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi'n hunain iddo yn bobl lân.
2 Derbyniwch ni. Wnaethon ni ddim cam â neb, na gwneud niwed i neb, na chymryd mantais o neb.
3 Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel y dwedais i, dych chi'n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo – byw neu farw
4 Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi'n fawr. Dw i'n wirioneddol hapus er gwaetha'r holl drafferthion.
5 Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o'r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o'r tu allan, ac ofnau o'n mewn ni.
6 Ond mae Duw'n cysuro'r rhai sy'n ddigalon, a dyma fe'n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni.