3 Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel y dwedais i, dych chi'n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo – byw neu farw
4 Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi'n fawr. Dw i'n wirioneddol hapus er gwaetha'r holl drafferthion.
5 Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o'r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o'r tu allan, ac ofnau o'n mewn ni.
6 Ond mae Duw'n cysuro'r rhai sy'n ddigalon, a dyma fe'n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni.
7 Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi ei gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi'n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Roeddwn i'n hapusach fyth wedyn!
8 Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, er ei fod wedi'ch brifo chi. Roeddwn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro.
9 Felly dw i'n hapus bellach – dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi.