2 Corinthiaid 7:6-12 BNET

6 Ond mae Duw'n cysuro'r rhai sy'n ddigalon, a dyma fe'n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni.

7 Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi ei gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi'n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Roeddwn i'n hapusach fyth wedyn!

8 Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, er ei fod wedi'ch brifo chi. Roeddwn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro.

9 Felly dw i'n hapus bellach – dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi.

10 Mae'r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i'w ddifaru! Ond dydy teimlo'n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol.

11 Edrychwch beth mae'r tristwch mae Duw'n edrych amdano wedi ei wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio'r peth allan, ac wedi'ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi'r troseddwr. Drwy'r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi.

12 Felly, roeddwn i'n ysgrifennu atoch chi fel gwnes i, dim i ddelio gyda'r un wnaeth y drwg, nac i ddangos fy mod i fy hun wedi cael cam. Roeddwn i'n ysgrifennu er eich mwyn chi! – i chi weld drosoch eich hunain mor bwysig ydy'n perthynas ni. Mae Duw'n gwybod!