1 Dw i eisiau dweud wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, am y ddawn o haelioni mae Duw wedi ei rhoi i'r eglwysi yn nhalaith Macedonia.
2 Er eu bod nhw wedi bod trwy amser caled ofnadwy, roedd eu llawenydd nhw'n gorlifo yng nghanol tlodi eithafol. Buon nhw'n anhygoel o hael!
3 Dw i'n dweud wrthoch chi eu bod nhw wedi rhoi cymaint ag oedden nhw'n gallu ei fforddio – do, a mwy! Nhw, ohonyn nhw'u hunain,
4 oedd yn pledio'n daer arnon ni am gael y fraint o rannu yn y gwaith o helpu Cristnogion Jerwsalem.