13 Dw i ddim eisiau gwneud bywyd yn anodd i chi am eich bod chi'n rhoi i geisio helpu pobl eraill. Beth dw i eisiau ydy tegwch.
14 Ar hyn o bryd mae gynnoch chi hen ddigon, a gallwch chi helpu'r rhai sydd mewn angen. Wedyn byddan nhw'n gallu'ch helpu chi pan fyddwch chi angen help. Mae pawb yn gyfartal felly.
15 Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin.”
16 Dw i'n diolch i Dduw fod gan Titus yr un consýrn amdanoch chi â sydd gen i.
17 Mae e'n dod atoch chi dim yn unig am ein bod ni wedi gofyn iddo, ond am ei fod e'n frwd i wneud hynny ei hun – roedd e wir eisiau dod.
18 Dŷn ni'n anfon gydag e frawd sy'n cael ei ganmol yn yr eglwysi i gyd am ei waith yn cyhoeddi'r newyddion da.
19 Yn wir, mae e hefyd wedi cael ei ddewis gan yr eglwysi i fynd gyda ni pan fyddwn yn mynd â'r rhodd i Jerwsalem – rhodd sy'n anrhydeddu'r Arglwydd ei hun ac hefyd yn dangos ein bod ni'n frwd i helpu.