19 Yn wir, mae e hefyd wedi cael ei ddewis gan yr eglwysi i fynd gyda ni pan fyddwn yn mynd â'r rhodd i Jerwsalem – rhodd sy'n anrhydeddu'r Arglwydd ei hun ac hefyd yn dangos ein bod ni'n frwd i helpu.
20 Dŷn ni eisiau gwneud yn siŵr fod neb yn gallu'n beirniadu ni am y ffordd dŷn ni wedi delio â'r rhodd hael yma.
21 Dŷn ni am wneud beth sy'n iawn, dim yn unig yng ngolwg yr Arglwydd ei hun, ond yng ngolwg pawb arall hefyd.
22 Dŷn ni'n anfon brawd arall gyda nhw hefyd – un sydd wedi dangos lawer gwaith mor frwdfrydig ydy e. Ac mae'n fwy brwd fyth nawr gan ei fod yn ymddiried yn llwyr ynoch chi.
23 Os oes cwestiwn yn codi am Titus – fy mhartner i ydy e, yn gweithio gyda mi i'ch helpu chi. Os oes unrhyw gwestiwn am y brodyr eraill – nhw sy'n cynrychioli'r eglwysi ac maen nhw'n glod i'r Meseia ei hun.
24 Felly dangoswch chi i'r dynion yma mor fawr ydy'ch cariad chi, a phrofi i'r eglwysi bod gynnon ni ddigon o le i fod yn falch ohonoch chi.