6 I hyn dw i'n dod: Dw i wedi annog Titus, gan mai fe ddechreuodd y gwaith da yma yn eich plith chi, i'ch helpu chi i orffen eich rhan chi yn y gwaith.
7 Mae gynnoch chi fwy na digon o ddoniau – ffydd, siaradwyr da, gwybodaeth, brwdfrydedd, a chariad aton ni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y blaen wrth roi'n hael hefyd.
8 Dim rhoi gorchymyn i chi ydw i. Ond dw i yn defnyddio brwdfrydedd pobl eraill fel maen prawf i weld pa mor real ydy'ch cariad chi.
9 A dych chi'n gwybod mor hael oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Er ei fod e'n gyfoethog yng ngwir ystyr y gair, gwnaeth ei hun yn dlawd er eich mwyn chi! – a hynny er mwyn i chi ddod yn gyfoethog yn eich perthynas â Duw!
10 Dim ond eisiau awgrymu'r ffordd orau i ddelio â'r mater ydw i. Chi oedd y rhai cyntaf i benderfynu gwneud rhywbeth y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyntaf i ddechrau arni.
11 Mae'n bryd i chi orffen y gwaith. Dangoswch yr un brwdfrydedd wrth wneud beth gafodd ei benderfynu. Rhowch gymaint ag y gallwch chi.
12 Os dych chi wir eisiau rhoi, rhowch chi beth allwch chi, a bydd hynny'n dderbyniol. Does dim disgwyl i chi roi beth sydd ddim gynnoch chi i'w roi!