9 Rwyt yn caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di, a thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.”
10 A hefyd, “O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf, a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr.
11 Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros; byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo.
12 Byddi'n eu rholio i fyny fel hen glogyn; byddi'n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad. Ond rwyt ti yn aros am byth – dwyt ti byth yn mynd yn hen.”
13 Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”
14 Dim ond gweision ydy'r angylion. Ysbrydion wedi eu hanfon i wasanaethu'r rhai fydd yn cael eu hachub!