Hebreaid 2 BNET

Rhybudd i gymryd sylw

1 Felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando'n ofalus ar y neges dŷn ni wedi ei chlywed. Mae fel angor yn ein cadw ni rhag drifftio i ffwrdd gyda'r llif.

2 Roedd y neges roddodd Duw i ni drwy angylion yn gwbl ddibynadwy, ac roedd pawb oedd yn torri'r Gyfraith neu'n anufudd yn cael beth oedden nhw'n ei haeddu.

3 Felly pa obaith sydd i ni ddianc rhag cael ein cosbi os gwnawn ni ddiystyru'r neges ffantastig yma am Dduw yn achub! Cafodd ei chyhoeddi gyntaf gan yr Arglwydd Iesu ei hun. Wedyn cafodd ei rhannu gyda ni gan y bobl hynny oedd wedi clywed Iesu.

4 Ac roedd Duw yn profi fod beth roedden nhw'n ei ddweud yn wir drwy achosi i arwyddion rhyfeddol ddigwydd a phob math o wyrthiau. Fe oedd yn dewis rhoi'r Ysbryd Glân i alluogi pobl i wneud pethau fel hyn.

Iesu wedi ei wneud yn debyg i'w frodyr a'i chwiorydd

5 A pheth arall – nid angylion sydd wedi cael yr awdurdod i reoli'r byd sydd i ddod.

6 Mae rhywun wedi dweud yn rhywle: “Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti ofalu am berson dynol?

7 Rwyt wedi ei wneud am ychydig yn is na'r angylion; ond yna ei goroni ag ysblander ac anrhydedd

8 a gosod popeth dan ei awdurdod.” Mae “popeth” yn golygu fod dim byd arall i Dduw ei osod dan ei awdurdod. Ond dŷn ni ddim yn gweld “popeth dan ei awdurdod” ar hyn o bryd.

9 Ond dŷn ni'n gweld ei fod yn wir am Iesu! Am ychydig amser cafodd e hefyd ei wneud yn is na'r angylion, a hynny er mwyn iddo farw dros bawb. Ac mae Iesu wedi “Ei goroni ag ysblander ac anrhydedd” am ei fod wedi marw! Mae'n dangos mor hael ydy Duw, fod Iesu wedi marw dros bob un ohonon ni.

10 Duw wnaeth greu popeth, a fe sy'n cynnal popeth, felly mae'n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Trwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e'n arweinydd perffaith i'w hachub nhw.

11 Mae'r un sy'n glanhau pobl, a'r rhai sy'n cael eu glanhau yn perthyn i'r un teulu dynol. Felly does gan Iesu ddim cywilydd galw'r bobl hynny yn frodyr a chwiorydd.

12 Mae'n dweud: “Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr a'm chwiorydd pwy wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.”

13 Ac wedyn, “Dw i'n mynd i drystio Duw hefyd.” Ac eto, “Dyma fi, a'r plant mae Duw wedi eu rhoi i mi.”

14 Gan ein bod ni'r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu'n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy'n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol.

15 Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach.

16 Pobl sy'n blant i Abraham mae Iesu'n eu helpu, nid angylion!

17 Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a'i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai'n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw.

18 Am ei fod e'i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae'n gallu'n helpu ni pan fyddwn ni'n wynebu temtasiwn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13