Hebreaid 3 BNET

Iesu'n fwy na Moses

1 Felly, frodyr a chwiorydd – chi sydd wedi'ch glanhau ac ar eich ffordd i'r nefoedd – meddyliwch am Iesu! Fe ydy'r negesydd oddi wrth Dduw a'r un dŷn ni'n ei dderbyn yn Archoffeiriad.

2 Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddo'i wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.”

3 Ond mae Iesu'n haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun sy'n adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy na'r tŷ ei hun!

4 Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy'n bod ydy Duw!

5 Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw'n ei wneud yn y dyfodol.

6 Ond mae'r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni'n bobl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a'r gobaith dŷn ni'n ei frolio.

Rhybudd rhag peidio credu

7 Felly, fel mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw,

8 peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch.

9 Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd.

10 Digiais gyda'r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’

11 Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’”

12 Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw.

13 Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‛heddiw‛. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig.

14 Os daliwn ein gafael i'r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu'r cwbl sydd gan y Meseia.

15 Fel dw i newydd ddweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.”

16 A pwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o'r Aifft?

17 A gyda pwy roedd Duw'n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda'r rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch!

18 Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn?

19 Felly dŷn ni'n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13