1 Rhyw awgrym o'r pethau gwych sydd i ddod sydd yn y Gyfraith Iddewig – dim y bendithion eu hunain. Dyna pam dydy'r Gyfraith ddim yn gallu glanhau'n berffaith y rhai sy'n mynd i addoli, a pham mae'r un aberthau yn gorfod cael eu cyflwyno dro ar ôl tro, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
2 Oni fyddai'r bobl wedi stopio aberthu petai'r Gyfraith yn gallu eu glanhau nhw? Byddai'r addolwyr wedi eu glanhau un waith ac am byth, a ddim yn teimlo'n euog am eu pechodau ddim mwy!
3 Ond na, beth roedd yr aberthau'n ei wneud oedd atgoffa'r bobl o'u pechod bob blwyddyn.
4 Mae'n amhosib i waed teirw a geifr gael gwared â phechod.
5 Felly pan ddaeth y Meseia i'r byd, dwedodd: “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau, ond rwyt wedi rhoi corff i mi.