10 A beth mae Duw eisiau ydy i ni gael ein glanhau o'n pechod am fod Iesu y Meseia wedi ei aberthu ei hun un waith ac am byth.
11 Dan yr hen drefn mae'r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e'n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod!
12 Ond dyma'r Meseia, ein hoffeiriad ni, yn offrymu ei hun yn aberth dros bechod un waith ac am byth, ac yna'n eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw.
13 Ers hynny mae wedi bod yn disgwyl i'w elynion gael eu gorfodi i blygu o'i flaen fel stôl iddo orffwys ei draed arni.
14 Drwy aberthu ei hun un waith mae'r Meseia wedi glanhau'n berffaith y bobl mae Duw wedi eu cysegru iddo'i hun am byth.
15 Ac mae'r Ysbryd Glân wedi sôn am hyn hefyd. Mae'n dweud fel hyn:
16 “Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda fy mhobl bryd hynny,” meddai'r Arglwydd: “Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau ac wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau.”