27 Allwn ni ond disgwyl yn ofnus am farn Duw a'r tân eirias fydd yn dinistrio gelynion Duw.
28 Meddyliwch! Os oedd rhywun yn gwrthod ufuddhau i Gyfraith Moses, doedd ond angen tystiolaeth dau neu dri tyst a byddai'n cael ei roi i farwolaeth. Doedd dim trugaredd!
29 Bydd y gosb yn llawer iawn mwy llym i'r bobl hynny sydd wedi sathru Mab Duw dan draed fel petai'n sbwriel ac wedi trin ei waed (gwaed yr ymrwymiad newydd) fel petai'n beth aflan! Maen nhw wedi sarhau Ysbryd hael Duw!
30 Oherwydd dŷn ni'n gwybod pwy ddwedodd, “Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl,” a hefyd, “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”
31 Peth dychrynllyd ydy cael eich dal gan y Duw byw!
32 Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi'ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi'n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy.
33 Weithiau'n cael eich sarhau a'ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda'r rhai oedd yn cael eu trin felly.