29 Bydd y gosb yn llawer iawn mwy llym i'r bobl hynny sydd wedi sathru Mab Duw dan draed fel petai'n sbwriel ac wedi trin ei waed (gwaed yr ymrwymiad newydd) fel petai'n beth aflan! Maen nhw wedi sarhau Ysbryd hael Duw!
30 Oherwydd dŷn ni'n gwybod pwy ddwedodd, “Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl,” a hefyd, “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”
31 Peth dychrynllyd ydy cael eich dal gan y Duw byw!
32 Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi'ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi'n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy.
33 Weithiau'n cael eich sarhau a'ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda'r rhai oedd yn cael eu trin felly.
34 Roeddech chi'n dioddef gyda'r rhai oedd wedi eu taflu i'r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi'n derbyn y peth yn llawen. Wedi'r cwbl roeddech chi'n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi – pethau sydd i bara am byth!
35 Felly peidiwch taflu'r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd – mae gwobr fawr yn ei ddilyn!