32 Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi'ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi'n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy.
33 Weithiau'n cael eich sarhau a'ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda'r rhai oedd yn cael eu trin felly.
34 Roeddech chi'n dioddef gyda'r rhai oedd wedi eu taflu i'r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi'n derbyn y peth yn llawen. Wedi'r cwbl roeddech chi'n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi – pethau sydd i bara am byth!
35 Felly peidiwch taflu'r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd – mae gwobr fawr yn ei ddilyn!
36 Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi ei addo i chi!
37 Oherwydd, “yn fuan iawn, bydd yr Un sy'n dod yn cyrraedd – fydd e ddim yn hwyr.
38 Bydd fy un cyfiawn yn byw trwy ei ffyddlondeb. Ond bydd y rhai sy'n troi cefn ddim yn fy mhlesio i.”