6 Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.
7 Felly dyma fi'n dweud, ‘O Dduw, dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.’”
8 Mae'r Meseia yn dweud, “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau” a “Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.” (Y Gyfraith Iddewig sy'n dweud fod rhaid gwneud hyn i gyd).
9 Wedyn mae'r Meseia'n dweud, “dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau.” Felly mae'n cael gwared â'r drefn gyntaf i wneud lle i'r ail.
10 A beth mae Duw eisiau ydy i ni gael ein glanhau o'n pechod am fod Iesu y Meseia wedi ei aberthu ei hun un waith ac am byth.
11 Dan yr hen drefn mae'r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e'n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod!
12 Ond dyma'r Meseia, ein hoffeiriad ni, yn offrymu ei hun yn aberth dros bechod un waith ac am byth, ac yna'n eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw.