19 Roedd Abraham yn derbyn fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw. Ac mewn ffordd mae'n iawn i ddweud ei fod wedi derbyn Isaac yn ôl felly.
20 Ffydd Isaac wnaeth iddo fendithio Jacob ac Esau. Roedd ganddo ffydd yn beth roedd Duw'n mynd i'w wneud yn y dyfodol.
21 Ffydd wnaeth i Jacob fendithio plant Joseff pan oedd ar fin marw. “Addolodd Dduw wrth bwyso ar ei ffon.”
22 A phan roedd Joseff ar fin marw, ei ffydd wnaeth iddo yntau sôn am bobl Israel yn gadael yr Aifft. Dwedodd wrthyn nhw hefyd ble i gladdu ei esgyrn.
23 Eu ffydd wnaeth i rieni Moses ei guddio am dri mis ar ôl iddo gael ei eni. Roedden nhw'n gweld fod rhywbeth sbesial am y plentyn, a doedd ganddyn nhw ddim ofn beth fyddai'r brenin yn ei wneud.
24 Ffydd wnaeth i Moses, ar ôl iddo dyfu, wrthod cael ei drin fel mab i ferch y Pharo.
25 Yn lle mwynhau pleserau pechod dros dro, dewisodd gael ei gam-drin fel un o bobl Dduw.