23 Eu ffydd wnaeth i rieni Moses ei guddio am dri mis ar ôl iddo gael ei eni. Roedden nhw'n gweld fod rhywbeth sbesial am y plentyn, a doedd ganddyn nhw ddim ofn beth fyddai'r brenin yn ei wneud.
24 Ffydd wnaeth i Moses, ar ôl iddo dyfu, wrthod cael ei drin fel mab i ferch y Pharo.
25 Yn lle mwynhau pleserau pechod dros dro, dewisodd gael ei gam-drin fel un o bobl Dduw.
26 Roedd cael ei amharchu dros y Meseia yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na holl drysor yr Aifft, am ei fod yn edrych ymlaen at y wobr oedd gan Dduw iddo.
27 Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i'r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig.
28 Ei ffydd wnaeth i Moses gadw'r Pasg hefyd, a gorchymyn i'r bobl roi gwaed ar byst drysau eu tai. Wedyn fyddai'r angel oedd yn lladd y mab hynaf ddim yn cyffwrdd teuluoedd Israel.
29 Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded drwy ganol y Môr Coch ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud yr un peth, dyma nhw'n cael eu boddi.