27 Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i'r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig.
28 Ei ffydd wnaeth i Moses gadw'r Pasg hefyd, a gorchymyn i'r bobl roi gwaed ar byst drysau eu tai. Wedyn fyddai'r angel oedd yn lladd y mab hynaf ddim yn cyffwrdd teuluoedd Israel.
29 Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded drwy ganol y Môr Coch ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud yr un peth, dyma nhw'n cael eu boddi.
30 Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded mewn cylch o gwmpas Jericho am saith diwrnod, a dyma'r waliau'n syrthio.
31 Am fod ganddi ffydd, rhoddodd Rahab y butain groeso i'r ysbiwyr. Wnaeth hi ddim cael ei lladd fel pawb arall, oedd yn anufudd i Dduw.
32 Beth arall sydd raid i mi ei ddweud? Does gen i ddim amser i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, Samuel a'r holl broffwydi.
33 Eu ffydd wnaeth alluogi'r bobl hyn i wneud pob math o bethau – concro teyrnasoedd, llywodraethu'n gyfiawn, a derbyn y bendithion roedd Duw wedi eu haddo. Cafodd llewod eu rhwystro rhag lladd pobl,