31 Am fod ganddi ffydd, rhoddodd Rahab y butain groeso i'r ysbiwyr. Wnaeth hi ddim cael ei lladd fel pawb arall, oedd yn anufudd i Dduw.
32 Beth arall sydd raid i mi ei ddweud? Does gen i ddim amser i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, Samuel a'r holl broffwydi.
33 Eu ffydd wnaeth alluogi'r bobl hyn i wneud pob math o bethau – concro teyrnasoedd, llywodraethu'n gyfiawn, a derbyn y bendithion roedd Duw wedi eu haddo. Cafodd llewod eu rhwystro rhag lladd pobl,
34 tanau gwyllt eu rhwystro rhag llosgi pobl, a llwyddodd eraill i ddianc rhag cael eu lladd gan y cleddyf. Cafodd y rhai oedd yn wan eu gwneud yn gryf, a throi'n filwyr nerthol yn gwneud i fyddinoedd gwledydd eraill ffoi.
35 Cafodd rhai gwragedd eu hanwyliaid yn ôl yn fyw ar ôl iddyn nhw farw. Ond cafodd eraill eu poenydio a gwrthod cyfaddawdu i osgoi marw. Roedden nhw'n edrych ymlaen at gael eu codi yn ôl i fywyd gwell!
36 Cafodd rhai eu sarhau a'u fflangellu, eraill eu rhoi mewn cadwyni a'u carcharu.
37 Cafodd rhai eu llabyddio gyda cherrig, ac eraill eu llifio yn eu hanner; a chafodd eraill eu lladd â chleddyf. Buodd rhai yn crwydro fel ffoaduriaid heb ddim ond crwyn defaid a geifr yn ddillad; wedi colli'r cwbl, ac yn cael eu herlid a'u cam-drin.