34 tanau gwyllt eu rhwystro rhag llosgi pobl, a llwyddodd eraill i ddianc rhag cael eu lladd gan y cleddyf. Cafodd y rhai oedd yn wan eu gwneud yn gryf, a throi'n filwyr nerthol yn gwneud i fyddinoedd gwledydd eraill ffoi.
35 Cafodd rhai gwragedd eu hanwyliaid yn ôl yn fyw ar ôl iddyn nhw farw. Ond cafodd eraill eu poenydio a gwrthod cyfaddawdu i osgoi marw. Roedden nhw'n edrych ymlaen at gael eu codi yn ôl i fywyd gwell!
36 Cafodd rhai eu sarhau a'u fflangellu, eraill eu rhoi mewn cadwyni a'u carcharu.
37 Cafodd rhai eu llabyddio gyda cherrig, ac eraill eu llifio yn eu hanner; a chafodd eraill eu lladd â chleddyf. Buodd rhai yn crwydro fel ffoaduriaid heb ddim ond crwyn defaid a geifr yn ddillad; wedi colli'r cwbl, ac yn cael eu herlid a'u cam-drin.
38 Pobl oedd y byd ddim yn eu haeddu nhw. Roedden nhw'n crwydro dros dir anial a mynydd-dir, ac yn cuddio mewn ogofâu a thyllau yn y ddaear.
39 Cafodd y bobl yma i gyd eu canmol am eu ffydd, ac eto wnaeth dim un ohonyn nhw dderbyn y cwbl roedd Duw wedi ei addo.
40 Roedd Duw wedi cynllunio rhywbeth gwell iddyn nhw – rhywbeth dŷn ni'n rhan ohono. Felly dŷn nhw ddim ond yn gallu cael y wobr lawn gyda ni.