5 Ffydd Enoch wnaeth beri iddo gael ei gymryd i ffwrdd o'r bywyd hwn heb orfod mynd drwy'r profiad o farw. “Roedd wedi diflannu am fod Duw wedi ei gymryd i ffwrdd.” Cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd cafodd ei ganmol am ei fod wedi plesio Duw.
6 Mae'n amhosib plesio Duw heb ffydd. Mae'n rhaid i'r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a'i fod yn gwobrwyo pawb sy'n ei geisio o ddifri.
7 Ffydd Noa wnaeth iddo wrando ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. Roedd Duw wedi ei rybuddio am bethau oedd erioed wedi digwydd o'r blaen. Wrth gredu roedd e'n condemnio gweddill y ddynoliaeth, ond roedd Noa ei hun yn cael ei dderbyn yn gyfiawn yng ngolwg Duw.
8 Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai'n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. Ond pan aeth oddi cartref doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd!
9 A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi ei haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi'r un addewid iddyn nhw hefyd.)
10 Roedd Abraham yn edrych ymlaen at fyw yn y ddinas roedd Duw wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, sef y ddinas sy'n aros am byth.
11 Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. Roedd yn llawer rhy hen i gael plentyn mewn gwirionedd, ond roedd yn credu y byddai Duw yn gwneud beth roedd wedi ei addo.