9 A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi ei haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi'r un addewid iddyn nhw hefyd.)
10 Roedd Abraham yn edrych ymlaen at fyw yn y ddinas roedd Duw wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, sef y ddinas sy'n aros am byth.
11 Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. Roedd yn llawer rhy hen i gael plentyn mewn gwirionedd, ond roedd yn credu y byddai Duw yn gwneud beth roedd wedi ei addo.
12 Felly, o'r un oedd yn rhy hen i gael plant, cafodd Abraham gymaint o ddisgynyddion mae'n amhosib eu cyfri i gyd – maen nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr!
13 Buodd y bobl hyn farw, wedi credu yn Nuw ond heb dderbyn yn llawn beth roedd Duw wedi ei addo iddyn nhw. Ond roedden nhw yn gweld y cwbl o bell, ac yn edrych ymlaen yn frwd. Roedden nhw'n dweud yn agored maipobl ddieithr yn crwydro'r tir oedden nhw,
14 ac mae'n amlwg fod pobl sy'n siarad felly yn edrych am eu mamwlad.
15 A dim y wlad roedden nhw wedi ei gadael oedd ganddyn nhw mewn golwg, achos gallen nhw fod wedi mynd yn ôl yno.