1 Oes! Mae tyrfa enfawr o'n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy'r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy'n ein dal ni'n ôl, yn arbennig y pechod sy'n denu'n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o'n blaenau i'w diwedd.
2 Rhaid i ni hoelio'n sylw ar Iesu – fe ydy'r pencampwr a'r hyfforddwr sy'n perffeithio ein ffydd ni. Er mwyn profi'r llawenydd oedd o'i flaen, dyma fe'n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny, a bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw yn y nefoedd!
3 Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde'r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid – wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni.
4 Wedi'r cwbl dych chi ddim eto wedi gorfod colli gwaed wrth wneud safiad yn erbyn pechod!
5 Ydych chi wedi anghofio anogaeth Duw i chi fel ei blant?: “Fy mhlentyn, paid diystyru disgyblaeth yr Arglwydd, na thorri dy galon pan fydd yn dy gywiro di,
6 achos mae'r Arglwydd yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru, ac yn cosbi pob un o'i blant.”
7 Cymerwch y dioddef fel disgyblaeth. Mae Duw'n eich trin chi fel ei blant. Pwy glywodd am blentyn sydd ddim yn cael ei ddisgyblu gan ei rieni?