18 Yn wahanol i bobl Israel, dych chi ddim wedi dod at bethau y gallwch eu teimlo – mynydd gyda thân yn llosgi arno, tywyllwch, caddug a storm wyllt.
19 Does dim sŵn utgorn, na llais i'ch dychryn chi, fel llais Duw pan oedd yn siarad yn Sinai. Roedd y bobl yn crefu ar i Dduw stopio siarad yn uniongyrchol â nhw.
20 Roedd y gorchymyn yn ormod iddyn nhw ei oddef: “Os bydd hyd yn oed anifail yn cyffwrdd y mynydd rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato nes iddo farw.”
21 Roedd y cwbl mor ofnadwy o ddychrynllyd nes i Moses ei hun ddweud, “Dw i'n crynu drwyddo i mewn ofn.”
22 Na! At fynydd Seion dych chi wedi dod – sef at ddinas y Duw byw! Dyma'r Jerwsalem nefol! Yma mae miloedd ar filoedd o angylion wedi dod at ei gilydd i addoli a dathlu.
23 Yma mae'r bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu cofrestru yn y nefoedd – sef y rhai sydd i dderbyn y bendithion, fel y ‛mab hynaf‛. Yma hefyd mae Duw, Barnwr pawb. Yma mae'r bobl gyfiawn hynny fuodd farw, a sydd bellach wedi eu perffeithio.
24 Yma hefyd mae Iesu, y canolwr wnaeth selio'r ymrwymiad newydd. Yma mae ei waed wedi ei daenellu – y gwaed sy'n dweud rhywbeth llawer mwy grymus na gwaed Abel.