26 Wrth fynydd Sinai roedd llais Duw yn ysgwyd y ddaear, ond nawr mae wedi dweud: “Unwaith eto dw i'n mynd i ysgwyd nid yn unig y ddaear, ond y nefoedd hefyd.”
27 Mae'r geiriau “unwaith eto” yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd – sy'n bethau wedi eu creu – i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros.
28 A dyna sut deyrnas dŷn ni'n ei derbyn! – un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni – gyda pharch a rhyfeddod, am mai
29 “Tân sy'n difa ydy Duw.”