3 Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde'r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid – wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni.
4 Wedi'r cwbl dych chi ddim eto wedi gorfod colli gwaed wrth wneud safiad yn erbyn pechod!
5 Ydych chi wedi anghofio anogaeth Duw i chi fel ei blant?: “Fy mhlentyn, paid diystyru disgyblaeth yr Arglwydd, na thorri dy galon pan fydd yn dy gywiro di,
6 achos mae'r Arglwydd yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru, ac yn cosbi pob un o'i blant.”
7 Cymerwch y dioddef fel disgyblaeth. Mae Duw'n eich trin chi fel ei blant. Pwy glywodd am blentyn sydd ddim yn cael ei ddisgyblu gan ei rieni?
8 Os dych chi ddim yn cael eich disgyblu allwch chi ddim bod yn blant go iawn iddo – mae pob plentyn wedi cael ei ddisgyblu rywbryd!
9 Pan oedd ein rhieni yn ein disgyblu ni, roedden ni'n eu parchu nhw. Felly oni ddylen ni wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol, i ni gael byw?