1 Daliwch ati i garu'ch gilydd fel credinwyr.
2 Peidiwch stopio'r arfer o roi croeso i bobl ddieithr yn eich cartrefi – mae rhai pobl wedi croesawu angylion i'w cartrefi heb yn wybod!
3 Daliwch ati i gofio'r rheiny sy'n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain! Cofiwch hefyd am y rhai sy'n cael eu cam-drin, fel tasech chi'ch hunain yn dioddef yr un fath.
4 Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall. Bydd Duw yn barnu pawb sy'n anfoesol ac yn cael rhyw y tu allan i briodas.