12 A'r un fath, roedd rhaid i Iesu ddioddef y tu allan i waliau'r ddinas er mwyn glanhau'r bobl drwy dywallt ei waed ei hun.
13 Felly gadewch i ninnau fynd ato, y tu allan i'r gwersyll, a bod yn barod i ddioddef amarch fel gwnaeth Iesu ei hun.
14 Dim y byd hwn ydy'n dinas ni! Dŷn ni'n edrych ymlaen at y ddinas yn y nefoedd, sef yr un sydd i ddod.
15 Felly, gadewch i ni foli Duw drwy'r adeg, o achos beth wnaeth Iesu. Y ffrwythau dŷn ni'n eu cyflwyno iddo ydy'r mawl mae e'n ei haeddu.
16 A pheidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu'ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae'r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn.
17 Byddwch yn ufudd i'ch arweinwyr ysbrydol, a gwneud beth maen nhw'n ei ddweud. Mae'n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw'n gofalu amdanoch chi. Rhowch le iddyn nhw fwynhau eu gwaith, yn lle ei fod yn faich. Fyddai hynny'n sicr o ddim lles i chi.
18 Peidiwch stopio gweddïo droson ni. Mae'n cydwybod ni'n glir, a dŷn ni'n ceisio gwneud beth sy'n iawn bob amser.