15 Felly, gadewch i ni foli Duw drwy'r adeg, o achos beth wnaeth Iesu. Y ffrwythau dŷn ni'n eu cyflwyno iddo ydy'r mawl mae e'n ei haeddu.
16 A pheidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu'ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae'r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn.
17 Byddwch yn ufudd i'ch arweinwyr ysbrydol, a gwneud beth maen nhw'n ei ddweud. Mae'n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw'n gofalu amdanoch chi. Rhowch le iddyn nhw fwynhau eu gwaith, yn lle ei fod yn faich. Fyddai hynny'n sicr o ddim lles i chi.
18 Peidiwch stopio gweddïo droson ni. Mae'n cydwybod ni'n glir, a dŷn ni'n ceisio gwneud beth sy'n iawn bob amser.
19 Dw i'n arbennig eisiau i chi weddïo y ca i ddod yn ôl i'ch gweld chi'n fuan.
20-21 Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi heddwch perffaith i ni, yn eich galluogi chi i wneud beth mae e eisiau. Fe ydy'r Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw, sef Bugail mawr y defaid. Trwy farw'n aberth, seliodd yr ymrwymiad tragwyddol a wnaeth Duw. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, trwy'r Meseia Iesu, yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe. Mae'n haeddu ei foli am byth! Amen!
22 Ffrindiau annwyl, dw i'n pwyso arnoch chi i dderbyn beth dw i wedi ei ddweud. Dw i wedi bod mor gryno ac y galla i.