13 Does dim byd drwy'r greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae e'n gweld popeth yn glir. A dyma'r Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo.
14 Felly gadewch i ni ddal ein gafael yn beth dŷn ni'n gredu. Mae gynnon ni Archoffeiriad gwych! – Iesu, Mab Duw, sydd wedi mynd i mewn at Dduw i'r nefoedd.
15 Ac mae'n Archoffeiriad sy'n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl.
16 Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.