6 Felly mae'r lle saff i orffwys yn dal i fodoli, i rai pobl gael mynd yno. Ond wnaeth y rhai y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi iddyn nhw yn yr anialwch ddim cyrraedd am eu bod wedi bod yn anufudd.
7 Felly dyma Duw yn rhoi cyfle arall, a ‛heddiw‛ ydy'r cyfle hwnnw. Dwedodd hyn ganrifoedd wedyn, drwy Dafydd yn y geiriau y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig.”
8 Petai Josua wedi rhoi'r lle saff oedd Duw'n ei addo iddyn nhw orffwys, fyddai dim sôn wedi bod am ddiwrnod arall.
9 Felly, mae yna ‛orffwys y seithfed dydd‛ sy'n dal i ddisgwyl pobl Dduw.
10 Mae pawb sy'n cyrraedd y lle sydd gan Dduw iddyn nhw orffwys yn cael gorffwys o'u gwaith, yn union fel gwnaeth Duw ei hun orffwys ar ôl gorffen ei waith e.
11 Felly gadewch i ni wneud ein gorau glas i fynd i'r lle saff hwn lle cawn ni orffwys. Bydd unrhyw un sy'n gwrthod dilyn Duw yn syrthio, fel y gwnaeth y bobl yn yr anialwch.
12 Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae'n ei ddweud. Mae'n fwy miniog na'r un cleddyf, ac yn treiddio'n ddwfn o'n mewn, i wahanu'r enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr. Mae'n barnu beth dŷn ni'n ei feddwl ac yn ei fwriadu.