11 Mae cymaint y gellid ei ddweud am hyn, ond dych chi mor araf i ddysgu, ac felly mae'n anodd esbonio'r cwbl.
12 Erbyn hyn dylech fod yn gallu dysgu pobl eraill, ond mae angen i rywun eich dysgu chi eto am y pethau mwya syml yn neges Duw. Dych chi fel babis bach sydd ond yn gallu cymryd llaeth, a heb ddechrau bwyta bwyd solet!
13 Dydy'r un sy'n byw ar laeth ddim yn gwybod rhyw lawer am wneud beth sy'n iawn – mae fel plentyn bach.
14 Ond mae'r rhai sydd wedi tyfu i fyny yn cael bwyd solet, ac wedi dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a'r da.