3 Dyna pam mae'n rhaid iddo gyflwyno aberthau dros ei bechodau ei hun yn ogystal â phechodau'r bobl.
4 Does neb yn gallu dewis bod yn Archoffeiriad ohono'i hun; rhaid iddo fod wedi ei alw gan Dduw, yn union yr un fath ag Aaron.
5 Wnaeth y Meseia ei hun ddim ceisio'r anrhydedd o fod yn Archoffeiriad chwaith. Duw wnaeth ei ddewis e, a dweud wrtho, “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn dad i ti.”
6 Ac yn rhywle arall mae'n dweud, “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
7 Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu'n gweddïo gan alw'n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw'n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo.
8 Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd trwy beth wnaeth e ddioddef.
9 Ac ar ôl iddo wneud popeth roedd ei angen, dyma achubiaeth dragwyddol yn tarddu ohono i bawb sy'n ufudd iddo.