6 Ac yn rhywle arall mae'n dweud, “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
7 Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu'n gweddïo gan alw'n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw'n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo.
8 Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd trwy beth wnaeth e ddioddef.
9 Ac ar ôl iddo wneud popeth roedd ei angen, dyma achubiaeth dragwyddol yn tarddu ohono i bawb sy'n ufudd iddo.
10 Cafodd ei benodi gan Dduw yn archoffeiriad “yr un fath â Melchisedec.”
11 Mae cymaint y gellid ei ddweud am hyn, ond dych chi mor araf i ddysgu, ac felly mae'n anodd esbonio'r cwbl.
12 Erbyn hyn dylech fod yn gallu dysgu pobl eraill, ond mae angen i rywun eich dysgu chi eto am y pethau mwya syml yn neges Duw. Dych chi fel babis bach sydd ond yn gallu cymryd llaeth, a heb ddechrau bwyta bwyd solet!